Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae hon yn rhaglen gyffrous, werth-chweil a ledled y wlad sy’n cael ei chyflwyno yma yng Ngholeg Sir Gâr ar gyfer pob dysgwr 14 - 16 oed.
Byddwch yn cael y cyfle, yr arweiniad a chefnogaeth i arbrofi gydag amrywiaeth o ddeunyddiau, prosesau a thechnegau o ystod eang o ddisgyblaethau. Dyma eich cyfle chi i roi cynnig ar rywbeth newydd ac i herio eich meddwl creadigol a’ch gallu i ddatrys problemau drwy raglen greadigol amrywiol a deinamig.
Mae rhaglen y Clwb Sadwrn hefyd yn cynnwys dwy arddangosfa genedlaethol yn Llundain y bydd pob dysgwr yn gweithio tuag atynt ac a fydd yn cynnwys cyfle cyffrous i gael arddangos eich gwaith mewn arddangosfa genedlaethol.
Gan weithio gydag unigolion creadigol eraill, byddwch yn cael y cyfle i weithio ar y cyd a dysgu oddi wrth eich gilydd ond hefyd i wneud ffrindiau am oes!
Rhan Amser
Blwyddyn
Campws Y Graig
Nodweddion y Rhaglen
Bydd y profiad bron blwyddyn o hyd yn cael ei rannu’n adrannau allweddol sy’n arwain at yr arddangosfeydd yn Llundain, partneriaethau lleol cyffrous a llu o gyfleoedd eraill.
Trefnir dosbarthiadau meistr gydag artistiaid blaenllaw neu ddylunwyr allweddol yn ystod y flwyddyn ac fe'u cyfathrebir â chi yn ystod y sesiynau dydd Sadwrn. Lle mae cyfleoedd yn caniatáu, trefnir teithiau i hwyluso’r dosbarthiadau meistr hyn a chyfleoedd cyffrous eraill.
Dilyniant
Mae mwyafrif ein dysgwyr yn symud ymlaen i gyrsiau creadigol, fodd bynnag, nid yw hyn yn wir bob amser.
Mae’r Clwb Sadwrn yn caniatáu i chi ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol fel cydweithio, cyfathrebu, meddwl yn greadigol a datrys problemau. Yn ogystal, gall dysgwyr ddefnyddio’r gwaith a gynhyrchir yn y Clwb Sadwrn i ategu pynciau TGAU lle bo hyn yn briodol.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad nac unrhyw angen am gefndir creadigol. Y cyfan yr ydym yn ei ofyn yw eich bod yn dod ag awydd i gael hwyl, ennill sgiliau creadigol a pharodrwydd i ymuno lle y gallwch!
E-Bost:
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Facebook: https://www.facebook.com/csgsaturdayclub/
Gwefan Celf a Dylunio Genedlaethol: https://saturday-club.org