Mae gwirfoddoli yn caniatáu i chi gysylltu ag eraill ar draws y coleg. Mae’n rhoi’r cyfle i chi ymarfer sgiliau pwysig a ddefnyddir yn y gweithle, megis gwaith tîm, cyfathrebu, datrys problemau, cynllunio prosiectau, rheoli tasgau, a threfnu. Yn ogystal, mae’n helpu datblygu eich hyder a’ch sgiliau cymdeithasol wrth i chi gwrdd yn rheolaidd â grwpiau o bobl sydd â diddordebau cyffredin.
Gofynnwch i’ch Tiwtor am y cyfleoedd sydd ar gael.
Gwirfoddoli gyda 5x30
Gallai eich rôl gynnwys hyfforddi a chynorthwyo mewn sesiynau ymarferol, trefnu a rhedeg digwyddiadau, casglu data a marchnata. Bydd yr adran 5x30 yn cefnogi eich cais i ddod yn Llysgennad Arian, gyda Chwaraeon Cymru. Bydd gwirfoddoli yn eich galluogi i ennill profiad yn gweithio yn y sector chwaraeon, a bydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau a rhinweddau newydd. Does dim angen i chi fod yn astudio Chwaraeon i wirfoddoli gyda ni. Mae angen i chi fod â diddordeb mewn hyrwyddo chwaraeon a gweithgareddau hamdden, yn ogystal â bod yn frwdfrydig dros annog eraill i fod yn actif. Mae yna hyblygrwydd i weithio o gwmpas eich amserlen ac i chi ymrwymo amser a fydd yn eich siwtio chi. Mae gwirfoddolwyr 5x30 yn aelodau gwerthfawr o’r coleg. Rydym yn gwerthfawrogi’r gwaith caled rydych yn ei gyfrannu trwy gydol y flwyddyn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr 5x30, cysylltwch â Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.