Bydd y cymhwyster Lefel UG a Safon Uwch CBAC hwn mewn Addysg Gorfforol yn galluogi dysgwyr i:
Ddatblygu gwybodaeth ddamcaniaethol a dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n tanategu gweithgarwch corfforol a chwaraeon a defnyddio'r wybodaeth hon i wella perfformiad
Deall sut y mae cyflyrau ffisiolegol a seicolegol yn effeithio ar berfformiad
Deall y ffactorau cymdeithasol-ddiwylliannol allweddol sydd yn dylanwadu ar gyfranogiad pobl mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon
Deall rôl technoleg mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon
Mireinio eu gallu i berfformio'n effeithiol mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon trwy ddatblygu sgiliau a thechnegau a dewis a defnyddio tactegau, strategaethau a/neu syniadau cyfansoddiadol
Datblygu eu gallu i ddadansoddi a gwerthuso i wella perfformiad
Deall y cyfraniad y mae gweithgarwch corfforol yn ei wneud tuag at iechyd a ffitrwydd
Gwella fel dysgwyr effeithiol ac annibynnol ac fel meddylwyr beirniadol ac adfyfyriol â meddyliau chwilfrydig.
Bydd y dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o'r modd y mae amrywiol gysyniadau damcaniaethol yn effeithio ar eu perfformiad eu hunain, trwy integreiddio theori ac ymarfer. Bydd y dysgwyr hefyd yn cael cyfle i ddatblygu ymwybyddiaeth o faterion cyfoes sydd yn berthnasol i addysg gorfforol a chwaraeon yng Nghymru.
Llawn Amser
UG - Blwyddyn Safon Uwch Llawn - 2 flynedd
Campws Graig
Rhai agweddau ar asesu ar sail gwaith ymarferol.
Cynigir ystod eang o weithgareddau ymarferol i'w hasesu i ddiwallu anghenion amrywiol y myfyrwyr.
Mae'r staff sy'n dysgu ar y cwrs yn gysylltiedig ag academi chwaraeon Coleg Sir Gâr.
Caiff yr unedau canlynol eu hastudio a'u hasesu mewn Lefel UG Addysg Gorfforol
Uned UG 1 (60% o'r cymhwyster UG): Archwilio addysg gorfforol
Mae'r uned hon yn cynnwys y pynciau canlynol:
Pwnc 1 - Ffisioleg ymarfer, dadansoddi perfformiad a hyfforddi
Pwnc 2 - Seicoleg chwaraeon
Pwnc 3 - Caffael sgiliau
Pwnc 4 - Chwaraeon a'r gymdeithas
Caiff Uned 1 ei hasesu trwy arholiad ysgrifenedig: 1¾ awr
Uned UG 2 (40% o'r cymhwyster UG): Gwella perfformiad personol mewn addysg gorfforol
Mae'r uned hon yn cynnwys y canlynol:
Pwnc 1 - Perfformiad ymarferol fel chwaraewr/perfformiwr. Rhaid i ddysgwyr arddangos a chymhwyso'r sgiliau a'r technegau perthnasol ar gyfer UN gamp/gweithgaredd. Dylid chwarae pob gweithgaredd dan amodau cystadleuol/ffurfiol.
Pwnc 2 - Perfformiad ymarferol fel hyfforddwr neu swyddog. Rhaid i ddysgwyr gynllunio a chyflwyno sesiwn hyfforddi fel rhan o raglen hyfforddi FEL Y GAMP YM MHWNC 1
Pwnc 3 - Proffil Perfformiad Personol. Rhaid i'r dadansoddiad o berfformiad personol fod o'r gweithgaredd ymarferol dewisol YR UN GAMP Â PHWNC 1 A 2. Mae'n tanategu cynnwys damcaniaethol priodol y pwnc ac yn darparu cyfle i ddysgwyr arddangos sgiliau meintiol.
Mae Uned 2 yn asesiad heb arholiad
Uned UG 1 - Gwerthuso addysg gorfforol
Mae'r pynciau yr un peth ag ar gyfer yr UG ond maent yn fwy gwerthusol ac mae'n hollbwysig eu bod yn cael eu cymhwyso i berfformiad.
Caiff Uned 1 ei hasesu trwy arholiad ysgrifenedig: 2 awr
Uned UG 2 - Mireinio perfformiad personol mewn addysg gorfforol
Pwnc 1 - Perfformiad ymarferol mewn un gweithgaredd fel chwaraewr/perfformiwr, hyfforddwr neu swyddog
Pwnc 2 - Ymchwil Ymchwiliol. Dylai'r ymchwil helpu'r dysgwr i wella ei berfformiad personol fel chwaraewr/perfformiwr, hyfforddwr neu swyddog. Mae'n gysylltiedig â'r gweithgaredd ymarferol dewisol ac yn cynnwys ymchwil i gynnwys pwnc damcaniaethol priodol. Mae'n darparu cyfleoedd i ymgeiswyr arddangos sgiliau meintiol.
Mae Uned 2 yn asesiad heb arholiad
Mae Safon Uwch yn gosod sail wych ar gyfer symud ymlaen i gymwysterau lefel uwch megis graddau neu Ddiplomâu Cenedlaethol Uwch.
Gyda chymhwyster mewn Addysg Gorfforol gall ymgeiswyr fynd ymlaen i addysg uwch a dilyn gyrfa mewn dysgu a hyfforddi neu chwaraeon proffesiynol, neu waith yn y diwydiant hamdden, rheolaeth hamdden neu'r diwydiant iechyd a ffitrwydd.
Lefel UG:
Safon Uwch:
Bydd angen o leiaf chwech TGAU graddau A* i C ar fyfyrwyr 16 - 19 oed a hanes profedig o gymryd rhan mewn chwaraeon - unigol neu dîm. Y graddau TGAU ar gyfer mynediad i addysg gorfforol yw:
Addysg Gorfforol - B
Mathemateg - C+
Saesneg neu Gymraeg Iaith (1af) - C
Gwyddorau - CC
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.