Theatr yw'r stori y mae'r ddynoliaeth yn ei hadrodd wrthi ei hun. Dyma ein cof cyfunol yn ogystal â'n ffordd o archwilio pwy ydym ac i ble yr ydym yn mynd. Rydym wedi adrodd y stori hon ers dros 2500 o flynyddoedd ac rydym yn parhau i'w hadrodd ar ffurfiau newydd bob dydd.
Cynlluniwyd y cwrs hwn i ganiatáu i fyfyrwyr barhau i ddatblygu eu diddordebau mewn drama fel ymarferwyr ac fel ymchwilwyr i gyd-destun a genre theatrig. Caiff techneg berfformio glasurol a chyfoes ei datblygu ochr yn ochr â meddwl beirniadol a theori sydd yn ymwneud â swyddogaeth a phwrpas drama. Bob blwyddyn mae teithiau i amrywiaeth o gynyrchiadau, megis Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (RWCMD), lleoliadau theatrig amgen, ac mae teithiau wedi’u cynllunio i Lundain er mwyn gwella ac ehangu eich dealltwriaeth o'r deunydd a ddaw i’ch rhan.
Llawn Amser
UG - Blwyddyn Safon Uwch Llawn - 2 flynedd
Campws Graig
Mae'r cwrs yn annog myfyrwyr i fynd i weld cymaint o berfformiadau byw ag sy'n bosibl trwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Caiff y myfyrwyr eu hintegreiddio'n llawn i'r adran celfyddydau perfformio ac maent yn cael cyfle i ymwneud â sesiynau allgyrsiol, gweithdai a chynyrchiadau.
Mae'r cwrs yn weithredol, yn ymarferol, yn ysgogi'r meddwl ac, yn anad dim, yn bleserus, gan ei fod yn caniatáu i fyfyrwyr y cyfle i wneud gwaith ymarferol mewn amgylchedd realistig yn ogystal â gwaith dosbarth. Mae'n datblygu sgiliau ein myfyrwyr o fewn cyd-destun theatr y byd drwy astudio dramâu, eu dehongli a'r modd o ddod â hwy'n fyw o'r dudalen i'r llwyfan.
Mae'r cwrs yn ychwanegu dimensiwn Cymreig wrth astudio neu berfformio gwaith dramodwyr Eingl-Gymreig drwy waith ymarferol yn Saesneg.
Uned UG 1: GWEITHDY THEATR,
Uned UG 2: TESTUN MEWN THEATR,
Uned U2 3: TESTUN AR WAITH,
Uned U2 4: TESTUN MEWN PERFFORMIAD
Mae Safon Uwch yn darparu sail ardderchog ar gyfer dilyniant i gymwysterau lefel uwch megis graddau neu ddiplomâu cenedlaethol uwch naill ai yn y brifysgol neu ysgol ddrama. Mae nifer o yrfaoedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â drama gan gynnwys actor, rheolwr llwyfan, gweinyddwr celfyddydau, athro drama, therapydd drama neu swyddi cynhyrchu. Byddai gyrfaoedd eraill lle gallai'r sgiliau a ddatblygir trwy ddrama fod yn ddefnyddiol yn cynnwys gwaith cymunedol, newyddiaduraeth neu ysgrifennu creadigol, marchnata a gwerthiant, y cyfryngau a'r gyfraith.
Yn ogystal, mae drama yn ychwanegiad gwych i'r rheiny sy'n dilyn llwybrau sy'n gysylltiedig â Saesneg, hanes, gwleidyddiaeth, y gyfraith a seicoleg.
2021 - A* - C 100%; fodd bynnag, enillodd 50% o’n myfyrwyr A* neu A.
UG
Uned 1: GWEITHDY THEATR: Gwaith cwrs 24% ynghyd â log creadigol a gwerthusiad.
Uned 2: TESTUN MEWN THEATR: Arholiad ysgrifenedig 16%.
U2
Uned 3: TESTUN AR WAITH: Gwaith cwrs 36% a fydd yn cynnwys adroddiad proses a gwerthuso.
Uned 4: TESTUN MEWN PERFFORMIAD: Arholiad ysgrifenedig 24%.
Bydd angen i fyfyrwyr 16 i 19 oed gael o leiaf chwech TGAU graddau A* i C, gan gynnwys TGAU Saesneg iaith, neu Gymraeg iaith gyntaf a mathemateg. Byddai gradd C+ mewn Saesneg llenyddiaeth yn fantais fawr.
Rhaid i fyfyrwyr hefyd ddangos tystiolaeth o frwdfrydedd dros Ddrama a Saesneg.
Mae mynediad i fyfyrwyr hŷn sydd heb gymwysterau ffurfiol yn ôl disgresiwn y Gyfadran.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.