Rhaglen dwy flynedd yw hon sy’n canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth eang o ffotograffiaeth. Nod y rhaglen yw bod pob dysgwr yn datblygu ei lais unigryw ei hun gan ddefnyddio delweddaeth weledol, a chymhwyso dealltwriaeth dechnegol a chyd-destunol yn hyderus i wireddu ei uchelgais greadigol. Anogir dysgwyr i archwilio diddordebau a syniadau unigol dros ystod o genres trwy ddatblygu llyfrau braslunio i gofnodi eu cynnydd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cipio eiliad, archwilio eich amgylchedd neu mewn cymryd ffotograffau artistig cyffrous bydd y cwrs hwn yn archwilio'r themâu hyn. Bydd y cwrs yn edrych ar pam fod ffotograffiaeth yn bwysig fel cyfrwng gweledol, ei chyd-destun hanesyddol ac artistig yn ogystal â sut y gallwch ei datblygu fel offeryn gweledol i greu celfyddyd. Rydyn ni’n astudio cyfansoddiad, goleuo, technegau camera, Adobe Photoshop, triniaeth artistig a dysgu annibynnol. Mae dilyniant i gyrsiau sylfaen a gradd yn gyffredin mewn ffotograffiaeth, dylunio a chelfyddyd gain.
Llawn Amser
UG - Blwyddyn Safon Uwch Llawn - 2 Flynedd
Campws Graig
Caiff dulliau analog a digidol o greu delweddau eu dysgu yn ogystal â phrosesau arbrofol, e.e. Twll Pin
Caiff meddalwedd o safon ddiwydiannol, yn bennaf Photoshop a Bridge, eu dysgu trwy gydol y cwrs.
Mae camerâu, goleuadau a chyfarpar arall ar gael i'r myfyrwyr eu benthyg. Caiff astudiaethau hanesyddol a chyd-destunol eu hintegreiddio ym mhrosiectau personol pob myfyriwr. Mae dysgwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau lleol a chenedlaethol. Trefnir ymweliadau rheolaidd ag arddangosfeydd, orielau a gweithdai ar gyfer yr holl ddysgwyr.
Mae holl ddysgwyr yr ail flwyddyn a dysgwyr dethol o'r flwyddyn gyntaf yn arddangos eu gwaith mewn arddangosfa diwedd blwyddyn.
Mae llawer o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio celfyddydau creadigol, gan arbenigo mewn ffotograffiaeth, i ysgolion celf yng Nghymru a Lloegr ac maen nhw wedi sefydlu gyrfaoedd mewn ffasiwn, hysbysebu, neu wedi sefydlu eu busnesau ffotograffiaeth eu hunain.
Lefel UG
100% o’r gwaith cwrs yn canolbwyntio ar y portffolio a
Lefel U2
Gwaith cwrs 76%, Asesiad Rheoledig 24%
Bydd angen i fyfyrwyr 16 i 19 oed gael o leiaf chwech TGAU graddau A* i C, gan gynnwys TGAU mathemateg neu TGAU Saesneg iaith. Yn ddelfrydol, bydd gan y rheiny sy’n dymuno astudio celf a dylunio radd C neu uwch mewn TGAU celf neu bwnc cysylltiedig a phortffolio o waith. Mae mynediad i fyfyrwyr hŷn sydd heb gymwysterau ffurfiol yn ôl disgresiwn y gyfadran.
Mae yna ffi stiwdio o £25 i dalu am adnoddau a chyfarpar arbenigol sydd eu hangen.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. Efallai y bydd cost ychwanegol fechan os bydd ymweliadau ag orielau celf neu arddangosfeydd.