Ydych chi'n edrych ar hysbysebion, cynlluniau cylchgronau neu arddangosfeydd busnes/adwerthu ac yn meddwl y byddech chi'n hoffi gyrfa mewn creadigrwydd? Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dylunio, archwilio eich creadigrwydd a datblygu gwell dealltwriaeth o’r egwyddorion gweledol a ddefnyddir mewn marchnata, yna Dylunio Graffig yng Ngholeg Sir Gâr yw’r cwrs i chi.
Byddwch yn datblygu ac yn meithrin eich dealltwriaeth o’r elfennau gweledol a fydd yn eich galluogi i ddylunio, brandio a chynhyrchu graffeg o safon broffesiynol yn effeithiol. Rydym yn astudio technegau darluniadol mewn lliw, cyfansoddiad, teipograffeg, a Delweddau mewn fformatau traddodiadol a digidol trwy Adobe Photoshop ac Illustrator sy’n galluogi’r holl gyfranogwyr i gynhyrchu safon uchel yn eu gwaith portffolio. Mae’r cymhwyster hwn yn arwain at ddilyniant i gyrsiau sylfaen a chyrsiau gradd ac mae’n bwnc partner rhagorol ar gyfer cael mynediad i gymwysterau uwch mewn graffeg, ffotograffiaeth, dylunio a chelfyddyd gain.
Llawn Amser
UG - Blwyddyn Safon Uwch Llawn - 2 Flynedd
Campws Graig
Rhaglen ddwy flynedd yw hon, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth eang o gyfathrebu graffig yn y cyfryngau cymdeithasol, marchnata a hysbysebu. Mae cyfathrebu graffig yn ymwneud â datblygu’r gallu i gyfathrebu’n weledol; defnyddio arloesedd a chreadigrwydd i ddatrys problemau dylunio, gan archwilio cyfryngau a phrosesau dylunio i gyfathrebu syniadau.
Nod y rhaglen yw bod pob dysgwr yn datblygu ei lais unigryw ei hun gan ddefnyddio delweddaeth weledol, a chymhwyso dealltwriaeth dechnegol a chyd-destunol yn hyderus i wireddu ei fwriadau. Anogir dysgwyr i archwilio diddordebau a syniadau unigol dros ystod o genres trwy ddatblygu llyfrau braslunio i gofnodi eu cynnydd. Mae'r rhaglen yn cynnwys technegau megis creu delweddau digidol gan ddefnyddio Photoshop ac Illustrator, darlunio traddodiadol, collage a gwneud printiau. Mae datblygu syniadau gan ddefnyddio lluniadu arsylwadol uniongyrchol a ffotograffiaeth yn fan cychwyn hanfodol ar gyfer pob prosiect.
Darperir cyfleoedd a chystadlaethau allanol i’r holl ddysgwyr er mwyn eu gwthio y tu hwnt i’w cylch cysur a datblygu profiadau allgyrsiol. Mae’r holl ddysgwyr yn cael y newyddion diweddaraf am arddangosfeydd cyfredol a digwyddiadau o ddiddordeb, gyda theithiau'n cael eu trefnu drwy gydol y flwyddyn. Mae UG cyfathrebu graffig yn cynnwys portffolio gwaith cwrs ac asesiad dan reolaeth ac mae Safon Uwch cyfathrebu graffig yn cynnwys modiwl portffolio wedi'i sbarduno gan y myfyriwr ei hun ac asesiad dan reolaeth a osodir yn allanol.
Mae astudio cyfathrebu graffig yng Ngholeg Sir Gâr wedi bod yn brofiad anhygoel.
Rwy'n dysgu'r holl sgiliau technegol sydd eu hangen arnaf i lwyddo yn y cwrs a chefais y rhyddid i archwilio pynciau a chysyniadau rwy'n frwdfrydig yn eu cylch.
Roedd yr awyrgylch yn yr adran gelf a dylunio yn caniatáu i mi deimlo'n hyderus wrth gamu y tu allan i'm cylch cysur o ran fy ngwaith celf.
Diolch i help fy narlithwyr, mae gen i gyfle nawr i astudio cyfathrebu graffig yn Plymouth sy'n brifysgol sy'n arbenigo mewn celf a dylunio.
Mae ein myfyrwyr graffeg llwyddiannus wedi mynd i Gaerdydd, Abertawe, Caerfaddon, Ysgol Gelf Caerfyrddin a Llundain i astudio ar gyrsiau Graffeg a Darlunio gan arwain at lefelau cyflawniad uchel a chyflogaeth o fewn diwydiannau cysylltiedig. Mae gennym nifer sylweddol o'n myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs ac sy’n mynd yn syth i brentisiaeth Dylunio Graffig neu yrfa lawn amser yn y proffesiwn. Bydd y sgiliau rydych yn eu hennill a'u datblygu ar y cwrs yn eich paratoi ar gyfer pa bynnag lwybr sydd fwyaf addas i chi: ar gyfer y byd gwaith, prentisiaethau neu lwybrau Addysg Uwch.
Yn 2018
Lefel UG - 40% o'r radd gyflawn.
Gwaith cwrs i gyd gyda phwyslais cryf ar waith portffolio a llyfrau braslunio, ymchwilio a datblygu manwl.
U2, Safon Uwch - 60% o’r radd gyflawn.
Gwaith cwrs 76%, Asesiad Rheoledig 24%. Eto mae’r portffolio a’r manylder mewn llyfrau braslunio yn hanfodol ar gyfer y graddau uwch.
Bydd angen i fyfyrwyr 16 i 19 oed gael o leiaf chwech TGAU graddau A* i C, gan gynnwys TGAU mathemateg neu TGAU Saesneg iaith. Yn ddelfrydol, bydd gan y rheiny sy’n dymuno astudio celf a dylunio radd C neu uwch mewn TGAU celf neu bwnc cysylltiedig a phortffolio o waith. Mae mynediad i fyfyrwyr hŷn sydd heb gymwysterau ffurfiol yn ôl disgresiwn y gyfadran.
Mae yna ffi stiwdio o £25 i dalu am adnoddau a chyfarpar arbenigol sydd eu hangen.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. Efallai y bydd cost ychwanegol fechan os bydd ymweliadau ag orielau celf neu arddangosfeydd.