Oes gennych chi gariad at lyfrau? Ydych chi'n ymgolli mewn emosiwn llenyddiaeth? O fewn y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i astudio’r tri genre allweddol mewn llenyddiaeth: Rhyddiaith; Barddoniaeth; a Drama. Dewisir amrywiaeth o destunau o Nofelau Clasurol, megis ‘Jane Eyre’ gan Charlotte Bronte i destunau mwy cyfoes megis ‘N-W’ gan Zadie Smith. Er, mae'r testunau'n newid ar gylch o ddwy i dair blynedd.
Gofynnir i fyfyrwyr Saesneg@CSG weithio ar destunau penodol, o wahanol ganrifoedd ar draws amser a datblygu eu sgiliau damcaniaethol a'u sgiliau cyfathrebu er mwyn dadansoddi llenyddiaeth. Asesir y cwrs hwn yn bennaf trwy arholiadau ffurfiol, allanol, er mae un uned gwaith cwrs yn cael ei chwblhau yn y gwersi ym mlwyddyn dau, dan amodau rheoledig.
Llawn Amser
UG - Blwyddyn Safon Uwch Llawn - 2 flynedd
Campws Graig
Darllenir ystod eang o destunau o’r canol oesoedd i’r cyfnod modern, ar draws y genres allweddol o ryddiaith, barddoniaeth a drama. Yn arbennig, rydym yn canolbwyntio ar, ac yn mireinio, eich sgiliau trafod, cyflwyno ac ysgrifennu traethawd ffurfiol. Mae datblygu sgiliau trosglwyddadwy a chymryd rhan mewn gweithgareddau allanol yn cynnwys ymweld â'r theatr a seminarau gan ddarparwyr addysg uwch yn cael eu hannog trwy gydol eich dwy flynedd gyda ni yn Saesneg@CSG.
Mae Safon Uwch Saesneg llenyddiaeth yn cynnwys ystod eang o destunau a dulliau gweithredu ar draws blwyddyn un a blwyddyn dau. Ym mlwyddyn un, rydym yn ymchwilio i’r dyfeisiau, y strategaethau a’r technegau llenyddol a ddefnyddir mewn drama, rhyddiaith a barddoniaeth. Rydym yn adeiladu ar y sgiliau hyn ym mlwyddyn dau ac yn ymchwilio ymhellach i ddadansoddi barddoniaeth glasurol a chyfoes, a thestun o waith Shakespeare. Eleni rydym yn astudio The Tempest.
Gan ddefnyddio’r sgiliau a’r technegau a ddysgwyd yn y dosbarth, gwneir y gwaith cwrs ar ddau destun rhyddiaith: un cyn-2000 ac un ôl-2000. Caiff hwn ei sefyll dan amodau rheoledig a’i gymedroli’n allanol.
Gall Safon Uwch Saesneg Llenyddiaeth arwain at lwyddiant mewn Addysg Uwch a allai arwain at yrfaoedd mewn Newyddiaduraeth, Ysgrifennu Creadigol, Cyhoeddi, y Cyfryngau, Addysgu, Llyfrgellyddiaeth, Celfyddydau Perfformio, Hysbysebu a Marchnata. Mae'n amhrisiadwy i'r rheiny sy'n mynd ymlaen i'r Cyfryngau, y Gyfraith, Newyddiaduraeth, Ysgrifennu Creadigol, Addysgu, ac ati. Yn fwyaf diweddar, mae un o’r myfyrwyr Safon Uwch Saesneg Llenyddiaeth wedi mynd ymlaen i Brifysgol Caerdydd i astudio Saesneg ac mae wedi gosod targed uchelgeisiol iddi ei hun i fynd ymlaen i herio J K Rowling fel awdur llwyddiannus nofelau i blant yn eu harddegau.
88% A* - C a 100% A* - E yn arholiadau 2018.
Mae Lefel UG Saesneg Llenyddiaeth yn cael ei asesu trwy ddau arholiad allanol:
Ym mlwyddyn dau, mae Safon Uwch Saesneg Llenyddiaeth yn cael ei asesu trwy ddau arholiad allanol ac un modiwl gwaith cwrs:
Fel rheol bydd yn ofynnol i fyfyrwyr 16 i 19 oed fod ag o leiaf saith TGAU graddau A* i C.
TGAU gradd B neu uwch mewn Saesneg llenyddiaeth ac o leiaf gradd C mewn Saesneg iaith. Mae bod â gwir ddiddordeb a chariad at ddarllen a siarad am destunau (nofelau, dramâu, rhyddiaith a barddoniaeth) yn hanfodol. Mae gan y cwrs hwn lefel uchel o ysgrifennu lefel uwch a sgiliau ysgrifennu estynedig.
Mae mynediad i fyfyrwyr hŷn sydd heb gymwysterau ffurfiol yn ôl disgresiwn y gyfadran.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.