Mae'r cwrs Safon Uwch cyfredol yn galluogi myfyrwyr i astudio hanes diweddar Ewrop yn yr ugeinfed ganrif, ochr yn ochr â hanes y Tuduriaid ym Mhrydain sy'n fwy traddodiadol ac mae hyn yn gwrthgyferbynnu â’r dimensiwn hanes rhyngwladol Americanaidd.
Mae'r pynciau hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu'n haneswyr cyflawn ac i ddatblygu'r sgiliau a'r nodweddion y mae'r rhan fwyaf o brifysgolion yn edrych yn ffafriol arnynt. Mae'r adran yn darparu cyfleoedd i gymryd rhan yn y prosiect "Gwersi o Auschwitz" gydag Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost ac mae'n cynnal rhaglen o ddarlithwyr ymweliadol sy'n arbenigwyr yn y maes. Yn ogystal, cafodd myfyrwyr gefnogaeth wrth wneud Prosiect Estynedig mewn hanes er mwyn cynorthwyo gyda cheisiadau i ddilyn graddau hanes sengl neu gyfun yn Oxbridge a phrifysgolion y Grŵp Russell. Rydym wedi cael llwyddiant mawr wrth baratoi myfyrwyr ar gyfer ceisiadau a chyfweliadau Oxbridge, Fullbright a phrifysgolion y Grŵp Russell.
Llawn Amser
Lefel UG - Blwyddyn. Safon Uwch Llawn - 2 Flynedd
Campws Graig
Mae’r adran yn derbyn canlyniadau arholiad rhagorol yn gyson. Ceir cyfleoedd ar gyfer trafodaethau dosbarth bywiog ac ymweliadau wedi eu trefnu i brifysgolion, amgueddfeydd, ymweliadau, perfformiadau sy’n ymwneud â’r cwrs a sgyrsiau sy’n gysylltiedig â’r cwrs Safon Uwch.
Mae gwaith cwrs hanes yn darparu’r cyfle i wneud gwaith ymchwil hanesyddol go iawn sydd yn hanfodol ar gyfer symud ymlaen i addysg uwch. Mae astudio hanes yn datblygu sgiliau a werthfawrogir yn fawr mewn llawer o broffesiynau, yn enwedig y gyfraith, swyddi ymchwilwyr mewn amrywiol gwmnïau cyfryngau, newyddiaduraeth, addysgu/darlithio, archifwyr, ac yn y blaen. Mae canran uchel iawn o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio yn y brifysgol ac mae llawer yn dilyn graddau sengl neu gyfun mewn hanes gyda phynciau partner megis y gyfraith, gwleidyddiaeth ac ieithoedd tramor modern.
Uned 1 - Opsiwn 1
Llywodraeth, gwrthryfel a chymdeithas yng Nghymru a Lloegr c. 1485-1603
Uned 2 - Opsiwn 8
Rhan 1: Weimar a’i heriau c.1918-1933
Uned 3 - Opsiwn 8
Y ganrif Americanaidd c.1890-1990
Uned 4 - Opsiwn 8
Yr Almaen: democratiaeth ac unbennaeth c.1918-1945
Rhan 2: Yr Almaen Natsïaidd c.1933-1945
Uned 5 - Gwaith cwrs - Canolbwyntio ar hyn o bryd ar agweddau ar Ryfel Fietnam
Mae Safon Uwch yn darparu sail ardderchog ar gyfer dilyniant i gymwysterau lefel uwch megis graddau neu ddiplomâu cenedlaethol uwch. Gall yr arbenigwr hanes ddod yn academydd, cyfreithiwr, athro, llyfrgellydd, archifydd neu swyddog amgueddfa. Mae astudio hanes hefyd yn werthfawr wrth geisio mynediad i newyddiaduraeth, darlledu, gwleidyddiaeth, y gwasanaeth sifil ac amrywiaeth eang o swyddi rheolaeth mewn busnes a masnach.
Mae nifer o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio hanes mewn prifysgolion nodedig gan gynnwys Rhydychen, Caergrawnt, Bryste a King’s yn Llundain, a Phrifysgolion eraill y Grŵp Russell a Sorrell.
Mae myfyrwyr diweddar ar hyn o bryd yn astudio hanes ym Mhrifysgol Rhydychen a daearyddiaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt ar ôl cwblhau eu Safon Uwch mewn hanes gyda ni yng Ngholeg Sir Gâr.
Lefel UG
Arholiadau 100% dros ddau bapur.
U2 - Safon Uwch
Gwaith cwrs 20%, arholiadau 80% dros ddau bapur.
Fel rheol mae'n ofynnol i fyfyrwyr 16 - 19 oed fod â lleiafswm o 6 TGAU gradd A* - C.
Mae gradd B TGAU mewn hanes a/neu Saesneg yn angenrheidiol i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu datblygu’r sgiliau ysgrifennu estynedig sydd eu hangen ar gyfer Hanes.
Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi astudio TGAU Hanes ond sydd â lefel uchel o allu mewn pynciau cysylltiedig yn cael eu hystyried ar gyfer mynediad. Mae mynediad i fyfyrwyr hyn sydd heb gymwysterau ffurfiol fel y mynno’r maes Cwricwlwm.