Pam dewis iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant? Bydd TAG y consortiwm City & Guilds/CBAC mewn iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant yn rhoi gwybodaeth drylwyr a manwl, dealltwriaeth a sgiliau i chi’n gysylltiedig â datblygiad a gofal unigolion ar hyd y rhychwant oes o genhedlu i oedolaeth ddiweddarach. Cewch y cyfle i ddatblygu eich dealltwriaeth o ddylanwadau ar dwf dynol, datblygiad, ymddygiad a lles. Hefyd byddwch yn ennill dealltwriaeth fanwl o anghenion cymdeithasol, corfforol, emosiynol a diwylliannol pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, ac yn cydnabod bod gan bob unigolyn gymysgedd unigryw o alluoedd ac anghenion. Byddwch yn ennill dealltwriaeth fanwl o sut mae darpariaeth gwasanaeth yng Nghymru yn cefnogi datblygiad a lles unigolion, i allu gwneud penderfyniadau deallus nawr a nes ymlaen mewn bywyd.
Llawn Amser
UG - Blwyddyn, Safon Uwch - 2 flynedd
Campws Graig
Mae’r fanyleb hon yn cynnwys materion cyfoes mewn perthynas â darpariaeth system iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant foesegol a chynaliadwy yng Nghymru. Hybir dysgu gweithredol a phersonoli trwy roi cyfleoedd i chi ymchwilio i faterion gofal a phynciau o’ch dewis eich hun. Mae dilyn astudiaeth eang o iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant ar lefel UG a dewis o lwybr ar gyfer U2 yn rhoi cyfle i chi ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl naill ai mewn gofal plant neu mewn iechyd a gofal cymdeithasol oedolion.
Lefel UG
UG Uned 1: Hyrwyddo iechyd a lles - asesir trwy arholiad ysgrifenedig.
UG Uned 2: Caiff cefnogi iechyd, lles a gwytnwch yng Nghymru ei hasesu trwy asesiad di-arholiad a’i marcio gan eich athro, ond caiff ei chymedroli’n allanol gan CBAC.
Safon Uwch Unedau 1 a 2, ynghyd â:
Llwybr gofal plant
U2 Uned 3: Safbwyntiau damcaniaethol am ddatblygiad plant a phobl ifanc. Asesir trwy arholiad ysgrifenedig.
U2 Uned 4: Caiff cefnogi datblygiad, iechyd, lles a gwytnwch plant a phobl ifanc ei hasesu trwy asesiad di-arholiad, ei marcio gan eich athro, a’i chymedroli’n allanol gan CBAC.
Mae’r fanyleb hon yn darparu cwrs astudio cydlynol, boddhaus a gwerth chweil i chi hyd yn oed os nad ydych yn symud ymlaen i astudiaeth bellach yn y pwnc hwn. Mae’n darparu sylfaen addas ar gyfer astudio iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant drwy ystod o gyrsiau addysg uwch, neu i mewn i gyflogaeth. Yn ogystal mae’n bosibl y byddwch yn symud ymlaen i gymwysterau eraill o fewn swît iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant. Nid yw’r fanyleb yn oed-benodol a, fel y cyfryw, mae’n darparu cyfleoedd i chi ehangu eich dysgu gydol oes. Byddwch yn ennill dealltwriaeth fanwl o sut mae darpariaeth gwasanaeth yng Nghymru yn cefnogi datblygiad a lles unigolion, i allu gwneud penderfyniadau deallus nawr a nes ymlaen mewn bywyd. Mae’r fanyleb yn cynnwys materion cyfoes ynghylch darpariaeth system iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant foesegol a chynaliadwy yng Nghymru, a bydd yn eich galluogi i wneud penderfyniadau deallus ynghylch cyfleoedd dysgu pellach neu i barhau i ddewisiadau gyrfaol perthynol.
Lefel UG
Nid yw hwn bellach yn cael ei gynnig fel Lefel UG. Gall y cynnig i wneud Diploma Atodol (pwyntiau UCAS yn gyfwerth â Safon Uwch) gael ei gynnwys yn yr opsiynau Safon Uwch.
Lefel U2
Caiff y cwrs ei asesu gydag un arholiad ffurfiol (40%) ac un asesiad rheoledig (60%).
Chwech TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys mathemateg neu Saesneg.
I ailsefyll blwyddyn dau neu ymuno ag U2 o sefydliad arall, rhaid i chi feddu ar o leiaf chwech TGAU yn cynnwys mathemateg a Saesneg TGAU a gradd A i C ar lefel UG.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.