Siarter Myfyrwyr Addysg Uwch.
SIARTER MYFYRWYR ADDYSG UWCH
CYTUNDEB RHWNG COLEG SIR GÂR, UNDEB Y MYFYRWYR A PHRIFYSGOL CYMRU Y DRINDOD DEWI SANT
Rhagair
Crëwyd y Siarter Myfyrwyr hon mewn partneriaeth rhwng Coleg Sir Gâr (y Coleg), Undeb y Myfyrwyr a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Brifysgol). Mae’r bartneriaeth yn angenrheidiol gan fod dyfarniadau Addysg Uwch (AU) y Coleg yn cael eu dilysu trwy’r Brifysgol. Felly, mae myfyrwyr AU y Coleg hefyd yn fyfyrwyr y Brifysgol.
Mae’r Siarter yn esbonio, mewn geiriau syml, gyd-ddisgwyliadau’r Coleg, y Brifysgol a’r Myfyrwyr, gan gydnabod bod darparu profiadau rhagorol i fyfyrwyr yn flaenoriaeth strategol allweddol i’r Coleg, y Brifysgol ac i Undeb y Myfyrwyr.
Cyflwyniad
Mae’r Siarter Myfyrwyr hon yn cwmpasu’r holl fyfyrwyr AU yn y Coleg a staff yn y Coleg a’r Brifysgol. Disgrifia’r cyfrifoldebau y bydd y Coleg a’r Brifysgol yn eu cyflawni i’w myfyrwyr. Hefyd esbonia’r cyfrifoldebau y bydd rhaid i fyfyrwyr eu cyflawni tra eu bod yn astudio yn y Coleg. Yn ogystal â hyn, amlinella gyfrifoldebau Undeb y Myfyrwyr i’r Coleg ac i’w fyfyrwyr.
Trwy osod Siarter Myfyrwyr yn ei lle, dengys y Coleg a’r Brifysgol eu hymrwymiad llawn i wella’n barhaus ansawdd eu gwasanaethau, gan gydnabod bod myfyrwyr wrth galon y sefydliadau.
Pwysleisia’r Siarter Myfyrwyr hon bwysigrwydd perthyn i gymuned ddysgu a phwysigrwydd staff a myfyrwyr yn gweithio mewn partneriaeth. Pwysleisia hefyd bwysigrwydd perthynas waith gadarn ac effeithiol rhwng y Coleg, y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, ac mae’n symbol o’r ymrwymiad ar y cyd i sicrhau profiadau rhagorol i fyfyrwyr.
Bydd y Coleg a’r Brifysgol yn darparu profiad addysgol dwyieithog o ansawdd uchel i gymuned amrywiol o ddysgwyr, gan gyfrannu’n gadarnhaol i anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol Cymru, yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd pum elfen allweddol: cynaliadwyedd, cyflogadwyedd, rhyngwladoli, diwylliant a dysgu gydol oes, wrth wraidd y profiad prifysgol unigryw a gynigir drwy’r Coleg. Trwy INSPIRE (Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithiolrwydd Adnoddau), mae’r Brifysgol yn gosod cynaliadwyedd wrth galon ei gweledigaeth strategol.
Diffinia Cynlluniau Strategol y Coleg a’r Brifysgol nifer o flaenoriaethau allweddol yn cynnwys sicrhau rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu, sicrhau rhagoriaeth ym maes ymchwil, darparu profiad o ansawdd uchel i fyfyrwyr, sefydlu proffil rhyngwladol, datblygu’r Economi Wybodaeth, hyrwyddo cyfiawnder, cynhwysiant a mynediad cymdeithasol, hyrwyddo dwyieithrwydd ac arbenigrwydd diwylliannol, sefydlogrwydd ariannol, buddsoddi mewn staff a chynaliadwyedd amgylcheddol.
Mae’r Coleg a’r Brifysgol yn gwbl ymrwymedig i ddwyieithrwydd ac arbenigrwydd diwylliannol ac amlinellir eu cefnogaeth yn hyn o beth yn eu Cynlluniau Strategol a’u Cynlluniau Iaith Gymraeg. Mae’r Brifysgol yn un o’r prif ddarparwyr addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau cyfrwng Cymraeg sy’n rhan o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Bydd y Siarter Myfyrwyr yn cael ei hadolygu ar y cyd gan fyfyrwyr, swyddogion Undeb y Myfyrwyr a staff y Brifysgol bob blwyddyn. Bydd yr adolygiadau hefyd yn cynnwys adborth arall gan fyfyrwyr.
Cyhoeddir y Siarter Myfyrwyr ar wefan y Coleg, a bydd hefyd yn cael ei lledaenu i’r myfyrwyr AU a’r staff.
Os teimla myfyrwyr na chyflawnwyd y safonau gofynnol, dylent dynnu sylw’u Harweinydd Rhaglen/Pennaeth Maes Cwricwlwm/Cyfarwyddwr Cyfadran neu Undeb y Myfyrwyr at hyn. Gall myfyrwyr gyfeirio hefyd at weithdrefnau ffurfiol y Coleg neu’r Brifysgol ar gyfer cwynion ac apeliadau neu achwyniadau myfyrwyr.
Bydd y Coleg a’r Brifysgol yn:
- Brydlon, yn effeithlon, yn effeithiol ac yn gwrtais bob amser wrth ymwneud â myfyrwyr.
- Delio â phob myfyriwr yn gyfartal.
- Agored ac yn dryloyw am yr holl benderfyniadau a wneir ar bob lefel lle bo hynny'n briodol.
- Cefnogi cynrychiolaeth myfyrwyr effeithiol ac yn darparu ystod o gyfleoedd ar gyfer ymgysylltu â myfyrwyr a chael adborth ganddynt.
- Darparu safonau uchel o ran addysgu, a bydd y rhain yn cael eu cyfoethogi gan gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus a dysgu gydol oes.
- Darparu ystod o gyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.
- Darparu gwasanaethau gweinyddol a chynnal o ansawdd uchel i gefnogi’r dysgu ac addysgu.
- Darparu amgylcheddau priodol ar gyfer dysgu ac addysgu.
- Cymryd pob cam rhesymol i ddarparu amgylchedd diogel ac iach.
- Rhoi cynaliadwyedd wrth galon gweledigaeth y Coleg a’r Brifysgol, gan gyhoeddi ymrwymiadau eglur o ran cyflawni ar gyfer Cymru gynaliadwy.
- Hyrwyddo’n agored y defnydd o dechnoleg berthnasol ar gyfer rhoi gwybod i fyfyrwyr am unrhyw newid neu wybodaeth am eu cyrsiau (e.e. drwy ddefnyddio Moodle).
- Rhoi rhybudd priodol os bydd rhaid newid amserlenni a chanslo neu aildrefnu dosbarthiadau, er mwyn caniatáu i fyfyrwyr wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.
- Ymrwymo i ddarparu adborth ar waith ysgrifenedig o fewn pum wythnos.
- Darparu gwybodaeth ar faterion yn cynnwys rheoliadau prifysgol, rhaglenni astudio, cynrychiolaeth myfyrwyr, asesu ac adborth, arfer annheg a llên-ladrad, arholiadau, cwynion ac apeliadau, gweithdrefnau disgyblu, cydraddoldeb ac amrywiaeth, cyfarwyddyd ar fynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu, cymorth myfyrwyr, cymorth i fyfyrwyr anabl a threfniadau tiwtoriaid personol.
- Darparu gwybodaeth gywir ar gostau astudio yn cynnwys ffioedd dysgu, llety a ffioedd eraill, ynghyd ag opsiynau talu.
- Darparu addysg, gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaol effeithiol, yn cynnwys cymorth gyda chynllunio datblygiad proffesiynol.
- Darparu a hyrwyddo gwybodaeth am gyfleoedd astudio pellach ac ymchwil.
- Diogelu’r holl wybodaeth bersonol a ddarperir gan fyfyrwyr a chydymffurfio â gofynion y Ddeddf Diogelu Data (1998).
Bydd y myfyrwyr yn:
- Bod yn ystyriol ac yn parchu cymuned amrywiol y Coleg a’r Brifysgol o fyfyrwyr, aelodau staff ac ymwelwyr.
- Ymrwymo’n llawn i astudio academaidd mewn dull diwyd, gonest a phroffesiynol gan gynnwys y dysgu a amserlennir ac unrhyw ofynion eraill gan y Coleg neu’r Brifysgol.
- Bod yn llysgennad cyfrifol i'r Coleg a’r Brifysgol drwy ymddygiad da ac ymgysylltu â'r gymuned a’r amgylchedd lleol.
- Rhoi gwybod i’r Coleg neu’r Brifysgol ar y cyfle cyntaf am unrhyw anabledd neu amgylchiadau personol eraill a allai effeithio ar gyfleoedd fel myfyriwr (gan gydnabod mai penderfyniad personol yw darparu'r wybodaeth hon ond bydd yn galluogi'r Coleg neu’r Brifysgol i wneud addasiadau rhesymol er mwyn cefnogi eu profiad o Goleg a Phrifysgol).
- Defnyddio cyfleusterau ac adnoddau’r Coleg a’r Brifysgol gyda pharch ac ystyriaeth.
- Cydymffurfio â holl Reoliadau’r Coleg a’r Brifysgol.
- Cofrestru’n flynyddol a thalu unrhyw arian sy’n ddyledus i’r Coleg neu’r Brifysgol ar amser neu fel y cytunir â’r Coleg a’r Brifysgol.
- Edrych ar fy nghyfrif e-bost myfyriwr yn y Coleg a Moodle yn rheolaidd.
- Parchu a glynu at gyfansoddiad a pholisïau Undeb Myfyrwyr Coleg Sir Gâr.
- Gwneud defnydd llawn o rôl gynrychiadol Undeb Myfyrwyr Coleg Sir Gâr.
Bydd Undeb y Myfyrwyr yn:-
- Cefnogi, yn cynrychioli ac yn cynghori’r myfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn triniaeth deg a’u bod yn ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau.
- Hyrwyddo cyfranogiad myfyrwyr yn holl weithgareddau Undeb y Myfyrwyr.
- Sicrhau proses gyson ar gyfer penodi, hyfforddi a chefnogi’r holl gynrychiolwyr myfyrwyr, yn cynnwys y rheini o gefndiroedd anhraddodiadol (myfyrwyr rhan-amser, dysgu o bell ac ôl-raddedig) ar draws pob campws.
- Helpu myfyrwyr â phroblemau academaidd a lles.
- Cynrychioli diddordebau myfyrwyr ar lefel leol a chenedlaethol.
- Darparu ystod o weithgareddau i gyfoethogi datblygiad personol, cwrdd â myfyrwyr eraill a datblygu hobïau a diddordebau.
- Cynnig nifer o gyfleoedd i fyfyrwyr gael profiad gwerthfawr drwy weithgareddau Undeb y Myfyrwyr yn cynnwys gwirfoddoli.
- Ethol yr holl swyddogion i’w rôl o fewn Undeb y Myfyrwyr yn ddemocrataidd.
- Gweithredu polisi drws agored.
- Parchu a glynu at bolisïau a rheoliadau Undeb Myfyrwyr Coleg Sir Gâr.
- Cyflwyno barn myfyrwyr i’r Coleg a/neu’r Brifysgol.