Chwaraeon a Hamdden Actif Lefel 1

Disgrifiad o'r Rhaglen



Ewch ati i wneud cwrs fydd yn eich cyflwyno i’r diwydiant chwaraeon, ffitrwydd, hamdden a lles.

Mae’r cwrs blwyddyn hwn wedi’i gynllunio i’ch cyflwyno chi i’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn addysg a/neu yrfa yn y diwydiant chwaraeon a hamdden actif. Ei nod yw meithrin nodweddion ac ymddygiadau yn barod ar gyfer astudio pellach. Ar gwblhau, mae’n bosibl y byddwch yn penderfynu defnyddio’r cwrs hwn fel cam i Chwaraeon L2 neu Wasanaethau Cyhoeddus L2.

Cewch gyfle i ymgymryd â gweithgareddau ymarferol ac astudiaeth ddamcaniaethol sy’n benodol i’r pwnc, ochr yn ochr â datblygu sgiliau hanfodol megis llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol. Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar safon ddiwydiannol megis ein cae chwarae 4G, ein neuadd chwaraeon a’n swît ffitrwydd. Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.


Nodweddion y Rhaglen



Mae’r meysydd astudio yn cynnwys chwaraeon ymarferol, hyfforddi, iechyd, ffordd o fyw a hyfforddi ar gyfer ffitrwydd. Hefyd byddwch yn datblygu sgiliau mewn trefnu, cynllunio dilyniant personol ac ymchwil ar lefel briodol.

Cewch wahoddiad i ymgysylltu â’r gymuned leol a meithrin perthnasau positif gydag arbenigwyr y diwydiant er mwyn treiddio ymhellach i ddewisiadau gyrfa posibl. Mae’r cyfleoedd hyn yn anelu at wella hyder a datblygu dyheadau.


Dilyniant a Chyflogaeth



Ewch ati i wneud cwrs fydd yn eich cyflwyno i’r diwydiant chwaraeon, ffitrwydd, hamdden a lles.

Mae’r cwrs blwyddyn hwn wedi’i gynllunio i’ch cyflwyno chi i’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn addysg a/neu yrfa yn y diwydiant chwaraeon a hamdden actif. Ei nod yw meithrin nodweddion ac ymddygiadau yn barod ar gyfer astudio pellach. Ar gwblhau, mae’n bosibl y byddwch yn penderfynu defnyddio’r cwrs hwn fel cam i Chwaraeon L2 neu Wasanaethau Cyhoeddus L2.

Cewch gyfle i ymgymryd â gweithgareddau ymarferol ac astudiaeth ddamcaniaethol sy’n benodol i’r pwnc, ochr yn ochr â datblygu sgiliau hanfodol megis llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol. Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar safon ddiwydiannol megis ein cae chwarae 4G, ein neuadd chwaraeon a’n swît ffitrwydd. Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.


Cynnwys y Rhaglen



Mae’r cwrs yn cynnwys 10 uned, sef:

Bod yn Drefnus

Datblygu Cynllun Dilyniant Personol

Gweithio Gydag Eraill

Ymchwilio i Bwnc

Sut Mae Ymarfer yn Effeithio’r Corff

Hyfforddi ar gyfer Ffitrwydd

Chwarae Chwaraeon

Sgiliau Hyfforddi mewn Chwaraeon

Cael Pobl i fod yn Actif

Cadw’n Actif ac Iach

Hefyd mae’r cwrs yn cynnwys sesiynau datblygu sgiliau a rhaglen diwtorial.


Asesu'r Rhaglen



Caiff yr holl aseiniadau eu dyfeisio gan diwtoriaid y cwrs, a’u hasesu’n fewnol.

I ennill pas mewn uned a asesir yn fewnol, rhaid i fyfyrwyr fodloni’r holl feini prawf asesu.


Gofynion y Rhaglen



Bydd arnoch angen o leiaf 4 TGAU graddau D-G. Asesir pob myfyriwr yn unigol a chynigir cyfle iddynt ddod i gyfweliad

Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o'r cwrs. Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cael y graddau angenrheidiol ar C neu uwch hyd yn hyn yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU, Cymwysterau Agored neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.