Chwaraeon Lefel 2

Disgrifiad o'r Rhaglen



Cynlluniwyd y cwrs hwn i’ch ysbrydoli ac i ennyn brwdfrydedd ynoch i ystyried gyrfa yn y sector chwaraeon

Trwy gydol y flwyddyn cewch gyfle i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth ehangach am y diwydiant chwaraeon, a fydd yn tanategu ac yn gwella eich sgiliau fel mabolgampwr uchelgeisiol. Ei nod yw eich paratoi ar gyfer cyfleoedd astudio pellach ac mae’n darparu cam ar y ffordd i L3 Chwaraeon, L3 Gwasanaethau Cyhoeddus neu L3 Antur Awyr Agored.

Nod y cwrs yw cysylltu addysg â byd gwaith mewn ffyrdd sy’n ennyn diddordeb, sy’n berthnasol ac yn ymarferol, ochr yn ochr â datblygu sgiliau hanfodol megis llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol. Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar safon ddiwydiannol megis ein cae chwarae 4G, ein neuadd chwaraeon a’n swît ffitrwydd. Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.


Nodweddion y Rhaglen



Mae’r meysydd astudio yn cynnwys ffitrwydd ar gyfer chwaraeon ac ymarfer, chwaraeon ymarferol, anatomeg a ffisioleg, ffordd o fyw, lles ac arwain gweithgareddau chwaraeon. Hefyd byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol trosglwyddadwy fel gweithio gydag eraill, datrys problemau, astudio annibynnol a sgiliau dysgu/meddwl. Bydd myfyrwyr yn ogystal yn datblygu sgiliau mewn trefnu, cynllunio dilyniant personol ac ymchwil ar lefel briodol.

Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn prosiectau gyda chlybiau, ysgolion a grwpiau cymunedol lleol er mwyn cael cipolwg ar gyfleoedd cyflogaeth o fewn y sector. Bydd y cyfle i redeg ac arwain digwyddiadau o’r fath yn datblygu hyder a sgiliau cyfathrebu.


Dilyniant a Chyflogaeth



Cynlluniwyd y cwrs hwn i’ch ysbrydoli ac i ennyn brwdfrydedd ynoch i ystyried gyrfa yn y sector chwaraeon

Trwy gydol y flwyddyn cewch gyfle i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth ehangach am y diwydiant chwaraeon, a fydd yn tanategu ac yn gwella eich sgiliau fel mabolgampwr uchelgeisiol. Ei nod yw eich paratoi ar gyfer cyfleoedd astudio pellach ac mae’n darparu cam ar y ffordd i L3 Chwaraeon, L3 Gwasanaethau Cyhoeddus neu L3 Antur Awyr Agored.

Nod y cwrs yw cysylltu addysg â byd gwaith mewn ffyrdd sy’n ennyn diddordeb, sy’n berthnasol ac yn ymarferol, ochr yn ochr â datblygu sgiliau hanfodol megis llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol. Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar safon ddiwydiannol megis ein cae chwarae 4G, ein neuadd chwaraeon a’n swît ffitrwydd. Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.


Cynnwys y Rhaglen



Mae’r cwrs yn cynnwys 12 uned, a all gynnwys:

Ffitrwydd ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer

Hyfforddiant ar gyfer Ffitrwydd Personol

Ffordd o Fyw a Lles

Perfformiad Chwaraeon Ymarferol

Rhedeg Digwyddiad Chwaraeon

Y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Actif

Anatomeg a Ffisioleg

Meddwl y Perfformiwr Chwaraeon

Anafiadau a’r Perfformiwr Chwaraeon

Arwain Gweithgareddau Chwaraeon

Hyrwyddo a Noddi

Y Perfformiwr Chwaraeon ar Waith

Hefyd mae’r cwrs yn cynnwys sesiynau datblygu sgiliau a rhaglen diwtorial.


Asesu'r Rhaglen



Mae’r 2 uned graidd yn cynnwys arholiad ar-lein ac fe’u hasesir yn allanol. Caiff yr asesiadau sy’n weddill eu dyfeisio gan diwtoriaid y cwrs, a’u hasesu’n fewnol.

Asesir pob uned i gyrraedd proffil pas, teilyngdod neu ragoriaeth. Rhaid i fyfyrwyr fodloni meini prawf asesu penodol er mwyn cyflawni pob marc.


Gofynion y Rhaglen



Bydd angen o leiaf 2 TGAU graddau A*-C arnoch, sy’n cynnwys naill ai Saesneg Iaith, Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu Fathemateg. Derbynnir dilyniannau o Lefel 1 Chwaraeon yn ogystal.

Asesir yr holl fyfyrwyr ar sail unigol a chynigir cyfle iddynt i ddod am gyfweliad.

Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o'r cwrs. Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cael y graddau angenrheidiol ar C neu uwch hyd yn hyn yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU, Cymwysterau Agored neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.