Mae Clwb Ffilm clodfawr Coleg Sir Gâr yn cynnig cyfle i fyfyrwyr wylio ffilmiau bob wythnos.
Mae’r sgriniadau rhad ac am ddim hyn ar Gampws y Graig yn dangos goreuon y byd ffilmiau - o sinema gyfoes neilltuol i glasuron hanesyddol: perlau sinema’r byd i brif ffilmiau a wnaed yma yng Nghymru.
Mae’r ffilmiau hyn ar gael i bob myfyriwr ond yn bennaf ein myfyrwyr Cyfryngau Creadigol o lefelau 1 i 3 sy’n eu mynychu.
Ar ôl pob sgriniad, mae’r myfyrwyr yn trafod ac adolygu’r ffilmiau, gan ddatblygu eu diddordeb brwd a’u gwybodaeth am y gwaith.Mae gan y Clwb gysylltiadau gwych gydag Into Film sydd wedi gweld aelodau yn ymweld â stiwdios ffilm, mynychu dosbarthiadau meistr a digwyddiadau arbennig gyda thalent fel Amma Asante, Rhys Ifans a Jonathan Pryce.
Graig Campus Sandy Road Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Coleg Sir Gar is a company limited by guarantee registered in England and Wales No. 08539630 and is a registered charity No. 1152522. The registered office is at The Graig Campus, Sandy Road, Pwll, Llanelli, Carmarthenshire, SA15 4DN