Gall y ganolfan eich helpu trwy roi asesiad unigol i chi i asesu eich anghenion ychwanegol fel tystiolaeth o’ch anawsterau ar gyfer eich Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA). Gall y ganolfan eich asesu i weld os oes angen help arnoch gyda:
Gwaith Ymarferol
Hyfforddiant Arbenigol
Cymryd Nodiadau
Cyfarpar a meddalwedd cyfrifiadurol
Cyfarpar Ergonomig
Sut gallaf gael asesiad?
Byddwch chi, neu’ch Coleg neu’ch Prifysgol, yn cysylltu â Chyllid Myfyrwyr ac yn cyflwyno tystiolaeth o’ch cyflwr meddygol neu’ch anhawster dysgu. Os ydynt yn fodlon bod yna angen posibl am gymorth ychwanegol, bydd Cyllid Myfyrwyr wedyn yn eich cyfeirio at y Ganolfan Asesu i gael asesiad llawn a manwl.
Bydd angen i chi gael cadarnhad ysgrifenedig y bydd Cyllid Myfyrwyr yn talu am gost yr asesiad cyn y gellir trefnu apwyntiad.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.