Mae Prentisiaeth Sylfaen mewn Trin Gwallt yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn ‘ennill wrth ddysgu’. Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed.
Bydd y Prentis yn gyflogedig a bydd yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog cenedlaethol i Brentisiaid (gallai hyn fod yn fwy fel y gwêl y cyflogwr yn ddoeth). Caiff y Prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 2 o fewn y raddfa amser gytunedig.
Mae’r cymhwyster galwedigaethol Lefel 2 hwn yn rhagflas cyffrous, a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar fyd y diwydiant gwallt. Mae’r cwrs hwn yn darparu’r cyfleoedd ymarferol i chi sy’n eich caniatáu i gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith wrth weithio ar gleientiaid mewn amgylchedd salon go iawn. Bydd hyn nid yn unig yn datblygu eich proffesiynoldeb ar gyfer y diwydiant, ond mae hefyd yn rhoi i chi’r cymhwyster lleiaf sydd ei angen er mwyn cymhwyso a chofrestru fel Trinydd Gwallt, fel y gallwch ddod yn Steilydd Iau. Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r modiwlau rydych yn eu hastudio. Fel rhan o’r cwrs, mae’n ofynnol i chi ymgymryd â phrofiad gwaith.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws y Graig
Nodweddion y Rhaglen
Bydd pob dysgwr yn cael ei gynorthwyo gan Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr a fydd yn mynd ati'n rheolaidd i fonitro cynnydd tuag at gyflawni targedau
Adolygiadau rheolaidd gydag ymgynghorydd hyfforddi
Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau fod y cymwysterau yn cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser
Bydd yr Ymgynghorydd Hyfforddi/Aseswr yn asesu'r Prentis yn y gweithle yn ôl y gofyn
Cynnwys y Rhaglen
Bydd yn rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y Brentisiaeth Sylfaen hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:
Mae’r cwrs Trin Gwallt Lefel 2 yn cynnwys wyth uned, sy’n cwmpasu unedau megis:
• Torri gwallt gan ddefnyddio technegau sylfaenol
• Lliwio a goleuo gwallt
• Ymgynghori â chleientiaid a’u cynghori
Ochr yn ochr â’ch cymhwyster Trin Gwallt, rydych hefyd yn astudio Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i Lefel 3.
Dilyniant a Chyflogaeth
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen hon yn llwyddiannus symud ymlaen i Brentisiaeth ar Lefel 3.
Asesu'r Rhaglen
Defnyddir gwaith cwrs, aseiniadau, arsylwadau yn y gweithle a thystiolaeth yn y gweithle at ddibenion asesu. Gellir gwneud yr asesiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Gofynion y Rhaglen
Nid oes yna ofynion lleiafswm y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer y fframwaith hwn o ran mynediad neu brofiad blaenorol; fodd bynnag, mae cyflwyniad personol priodol a hylendid personol yn hanfodol.
Mae sgiliau ymarferol, trefniadol a chymdeithasol gyda lefel uchel o ddeheurwydd a chydsymudiad hefyd yn hanfodol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.