Disgrifiad o'r Rhaglen

Cynlluniwyd y cymhwyster galwedigaethol lefel tri hwn er mwyn datblygu ymhellach eich sgiliau a thechnegau trin gwallt a enillwyd gennych ar lefel dau. 

Byddwch yn parhau i feithrin eich hyder a’ch creadigrwydd wrth weithio ar gleientiaid mewn amgylchedd salon go iawn yn ogystal â dysgu sut i roi cyngor i gleientiaid ar driniaethau a chynhyrchion gwallt addas. 

Mae’r cwrs blwyddyn llawn amser hwn yn gymhwyster lefel uchel sy’n ehangu ar y sgiliau trin gwallt a ddysgwyd ar lefel dau.  Bydd yn rhoi’r sgiliau trin gwallt ymarferol uwch i chi ar gyfer dilyniant gyrfaol pellach yn y diwydiant trin gwallt.  

Mae’r cwrs dwys hwn yn cyfuno theori a phrofiad ymarferol a chewch eich  asesu trwy gwblhau profion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig, a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r modiwlau rydych yn eu hastudio. 

Yn ogystal, byddwch yn cael cyfle i ymgymryd â lleoliad allanol, a fydd yn gwella eich rhagolygon cyflogadwyedd hyd yn oed ymhellach.  

Bydd canolbwyntio ar ofal cwsmer rhagorol a chyfathrebu da yn eich helpu i ddatblygu ar gyfer gyrfa mewn trin gwallt, gyda’n tîm arbenigol yn eich cefnogi i wella a datblygu eich sgiliau i’ch cynorthwyo i ddringo’r ysgol gyrfaoedd.

Cipolwg

  Llawn Amser

  Blwyddyn  

  Campws y Graig

Nodweddion y Rhaglen

Mae’r coleg yn rhedeg salon hyfforddi masnachol sydd ar agor i’r cyhoedd, gan ddarparu amgylchedd gwaith go iawn i chi, a’ch galluogi i gael ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant. 

Mae yna hefyd bwyslais ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol. 

Byddwch yn cymryd rhan mewn rhaglen ffyniannus o weithgareddau sy’n cynnwys teithiau a digwyddiadau yn ogystal â chymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol sy’n gallu arwain at gystadlaethau rhyngwladol a gefnogir gan Gystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills y DU. 

Mae hwn yn gwrs llawn amser a disgwylir i chi weithio un noson yr wythnos yn salon masnachol y coleg.

Cynnwys y Rhaglen

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys unedau gorfodol ac opsiynol a gyflwynir dros flwyddyn.  

  • Steilio a gwisgo gwallt yn greadigol
  • Lliwio a goleuo gwallt yn greadigol
  • Datblygu, gwella a gwerthuso eich sgiliau trin gwallt creadigol

Ochr yn ochr â’ch prif gymhwyster, cewch gyfle i wella eich graddau naill ai drwy ailsefyll pynciau TGAU neu Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau pellach a datblygu eich hyder ac opsiynau gyrfaol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen i gyflogaeth mewn salon neu i archwilio hunangyflogaeth.

Ar ôl cwblhau cymhwyster lefel tri efallai yr hoffech hyd yn oed wneud cais am weithio ar longau gwyliau - yn gwneud triniaethau gwallt ochr yn ochr â theithio'r byd. Mae yna hefyd gyfleoedd cyffrous eraill i weithio mewn amryw o salonau cadwyn ledled y byd mewn gwledydd mor bell i ffwrdd â Dubai a Bermuda.

Mae ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.

Asesu'r Rhaglen

Fel rhan o'r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:

  • Arholiad ymarferol
  • Asesiadau parhaus
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Asesiadau ysgrifenedig

Gofynion y Rhaglen

Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei asesu mewn cyfweliad fodd bynnag mae angen agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil alwedigaethol.

Gofynnwn am o leiaf pum TGAU graddau A* - C, sy’n cynnwys naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg iaith a mathemateg.  

Gall y rheiny sy’n meddu ar gymhwyster lefel dau hefyd symud ymlaen i’r cwrs hwn. 

Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs a bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yn hyn wedi cael y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol gan ddibynnu ar raddau TGAU blaenorol.

Costau Ychwanegol

Bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau yn y coleg ond ar ben hynny, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform. Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad cychwyn a gellir rhoi cyngor yn y cyfweliad.  

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.