Mae'r cwrs rhagflas cyffrous, lefel dau rhan-amser hwn, wedi'i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd ag uchelgais i weithio yn y diwydiant trin gwallt.
Mae'n cwmpasu'r holl driniaethau trin gwallt sylfaenol a bydd yn rhoi sail dda i chi allu symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch.
Wrth ddysgu yn salon masnachol y coleg byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa fel trinydd gwallt.
Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu arbenigedd ymarferol a gwybodaeth hanfodol am y diwydiant.
Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfleoedd ymarferol i chi sy’n eich caniatáu i gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon trin gwallt go iawn.
Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r modiwlau rydych yn eu hastudio.
Mae'r dystysgrif lefel dau hon yn cynnwys yr elfennau gofynnol i weithio'n effeithiol fel trinydd gwallt gan gynnwys torri, lliwio, permio a thrin gwallt.
Rhan-amser
Blwyddyn
Campws y Graig
Mae’r coleg yn rhedeg salon hyfforddi masnachol sydd yn agored i’r cyhoedd ac sy’n darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi, gan eich caniatáu i gael ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant.
Mae yna bwyslais ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol.
Byddwch yn cymryd rhan mewn rhaglen ffyniannus o weithgareddau gan gynnwys teithiau a digwyddiadau ynghyd â chymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol.
Mae hwn yn gwrs rhan-amser a gynhelir dros un noson yr wythnos.
Mae'r cwrs trin gwallt lefel dau yn cynnwys unedau gorfodol a gyflwynir dros flwyddyn yn rhan-amser:
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i gwrs lefel uwch, prentisiaeth ac yn y pen draw i waith fel trinydd gwallt iau.
Mae ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.
Byddai dilyniant i gwrs diploma lefel dau neu mewn salonau masnachol neu'n gweithio mewn diwydiannau fel teledu, ffilm, theatr a'r cyfryngau, llongau mordeithio, cwmnïau gwneud wigiau, siopau barbro a hunangyflogaeth.
Fel rhan o'r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:
Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei asesu mewn cyfweliad fodd bynnag mae angen agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil alwedigaethol.
Mae arnom angen o leiaf pedwar TGAU ar raddau A* i D gyda dwy radd C, gydag un naill ai'n Gymraeg (iaith gyntaf) / Saesneg neu fathemateg. Neu rydym yn derbyn cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol.
Ffi’r cwrs rhan-amser hwn ar hyn o bryd yw £305.
Bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau yn y coleg ond ar ben hynny, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform. Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad cychwyn a gellir rhoi cyngor yn y cyfweliad.
Trefnir amryw deithiau trwy gydol y flwyddyn academaidd sy'n ymwneud â'r diwydiant gwallt, y bydd gofyn i chi dalu cyfraniad tuag atynt.