Cymhwyster galwedigaethol yw’r Dystysgrif Lefel 3 mewn Tylino Swedaidd sy’n rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau i ddysgwyr weithio fel therapydd tylino cyflogedig a/neu hunangyflogedig. Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) therapi harddwch ac fe’i cydnabyddir gan y gymdeithas broffesiynol flaenllaw, Cymdeithas Therapi Harddwch a Chosmetoleg Prydain (BABTAC). Mae deiliaid y cymhwyster hwn yn gymwys i ddod yn aelod proffesiynol o’r BABTAC.
Cynlluniwyd y cymhwyster hwn yn benodol ar gyfer y grŵp oedran 18+ ac mae’n galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau technegol i baratoi dysgwyr ar gyfer gwaith.
Rhan-amser
12 wythnos
Campws y Graig
Mae hwn yn gymhwyster galwedigaethol proffesiynol ac mae’n cynnwys yr holl elfennau sy’n ofynnol i weithio’n effeithiol fel therapydd tylino gan gynnwys unedau sy’n cwmpasu’r canlynol: darparu tylino’r corff, iechyd a diogelwch, anatomeg a ffisioleg a gofal cleientiaid. Bydd dysgwyr yn mynychu campws y Graig a byddant yn gweithio mewn amgylchedd masnachol i gwblhau astudiaethau achos ymarferol a gefnogir gan weithgareddau ac asesiadau ystafell ddosbarth ar-lein. Felly mae agwedd gadarnhaol a sgiliau rhyngbersonol da yn hanfodol ynghyd â’r gallu i weithio fel rhan o dîm a hefyd yn annibynnol.
Bydd y cwrs yn dechrau ddydd Iau 3ydd Mawrth o 2:00 pm- 9:00pm ac yn rhedeg am 15 wythnos.
Mae’r cymhwyster yn cynnwys yr unedau gorfodol canlynol:
Bydd y cymhwyster hwn yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth fel therapydd tylino Swedaidd. Hefyd byddwch yn gymwys i ymuno â chymdeithas broffesiynol a chael yswiriant fel therapydd tylino Swedaidd. Mae cyfleoedd gyrfa yn bodoli mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys:
- Gweithio mewn salonau masnachol
- Gweithio mewn sbâu cyrchfannau a sbâu dydd
- Gweithio mewn lleoliadau annibynnol/hunangyflogedig/symudol/yn y cartref
Gall y cymhwyster hwn hefyd eich arwain at astudio pellach fel Therapydd Cyflenwol, Aromatherapydd neu Therapydd Tylino Chwaraeon ar Lefel 3
Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Hefyd rydym yn gofyn am bump TGAU graddau A* i C, sy’n cynnwys naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg iaith a mathemateg, neu ddiploma lefel dau.
Mae angen i ddarpar ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod presenoldeb a phrydlondeb rhagorol yn rhan hanfodol o’r cwrs hwn.
Mae ymddangosiad proffesiynol, trwsiadus yn hanfodol ac felly bydd hi’n ofynnol i ddysgwyr brynu citiau proffesiynol ac iwnifform y mae rhaid ei gwisgo yn ystod pob dosbarth ymarferol.
Rhaid i ddysgwyr sy’n dymuno ymgymryd â’r cymhwyster hwn hefyd ennill cymhwyster Dyfarniad Lefel 2 VTCT (ITEC) mewn Atal Haint (COVID-19) ar gyfer Therapïau Cyflenwol a Thylino Chwaraeon neu gymhwyster cyfwerth rheoledig.
Ffi’r cwrs rhan-amser hwn yw £345.
Cit Tylino - £39
Iwnifform - £43.60
Costau bras yw rhai’r cit ac iwnifform a gallant newid
Cewch fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau yn y coleg
Trefnir amrywiol deithiau trwy gydol y flwyddyn academaidd sy'n ymwneud â'r diwydiant harddwch, y bydd gofyn i chi dalu cyfraniad tuag atynt.