Skip to main content

Tudalen Hafan Llywodraethiant

Tudalen Hafan Llywodraethiant

Ym mis Awst 2013, daeth Coleg Sir Gâr yn bartner strwythurol Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ac yn gwmni cofrestredig cyfyngedig trwy warant.  Ym mis Awst 2017, daeth Coleg Ceredigion yn is-gwmni dan berchnogaeth lwyr Coleg Sir Gâr, ar ôl bod yn is-gwmni uniongyrchol y cwmni rhiant PCYDDS yn flaenorol.

Mae Coleg Sir Gâr yn elusen gofrestredig a’i amcan, er budd y cyhoedd, yw darparu addysg uwchradd, addysg uwch ac addysg bellach fel y diffinir yn adran 18(1) Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.  

Mae’r Coleg a’i Fwrdd Cyfarwyddwyr yn ymrwymedig i gadw at Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan, a dangos arfer gorau ym mhob agwedd ar lywodraethiant corfforaethol, a nodwyd yn y Cod Llywodraethiant Da ar gyfer Colegau yng Nghymru.  Mae’n gyfrifol am gymeradwyo’r cynlluniau strategol ar gyfer y Coleg ac am lywodraethu a rheoleiddio ei gyllidau, cyfrifon, buddsoddiadau, eiddo, busnes a materion. Ceir esboniad o’i brif gyfrifoldebau yn Erthyglau Cymdeithasu’r Coleg.

Mae’r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn dod â barn annibynnol yng nghyswllt materion yn ymwneud â strategaeth, perfformiad, adnoddau a safonau ymddygiad.  Mae’n cydnabod, fel cwmni sydd yng ngofal cyllid cyhoeddus a phreifat, bod ganddo ddyletswydd benodol i gynnal y safonau uchaf o lywodraethiant corfforaethol bob amser.  

Os oes diddordeb gennych mewn dod yn aelod o’r Bwrdd Llywodraethu cysylltwch â:
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc y Bwrdd, i gael mwy o wybodaeth.

Dogfennau llywodraethu

Strwythur y Bwrdd a Phwyllgorau

Aelodau’r Bwrdd a Chyfansoddiad Is-Bwyllgorau

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.