Mae’r Dystysgrif Her Sgiliau (SCC) yn gwrs cyfwerth â Safon Uwch, sy’n cael ei raddio A* - E a’i astudio ochr yn ochr â llawer o gyrsiau galwedigaethol lefel 3 a phob cwrs Uwch Gyfrannol ac A2. Mae ganddo’r un nifer o bwyntiau UCAS â chwrs Safon Uwch llawn ac fe’i cynlluniwyd i ddatblygu a symud sgiliau dysgwyr ymlaen mewn Llythrennedd; Rhifedd; Llythrennedd Digidol; Effeithiolrwydd Personol; Cynllunio a Threfnu; Meddwl yn Feirniadol; Creadigrwydd ac Arloesedd a Datrys Problemau.
Mae’r pwyslais yn y cwrs SCC ar ddysgu cymhwysol o gwmpas y cysyniad o ‘gynllunio, gwneud ac adolygu’. Byddwch yn caffael a chymhwyso ystod o sgiliau trosglwyddadwy mewn cyd-destunau gwahanol a fydd yn cynnwys cynllunio gweithgareddau, cyflawni gweithgareddau, adolygu canlyniadau a’ch datblygiad eich hunan.
Mae’r cwrs SCC wedi cael ei ddylunio i gynnwys dysgu a fydd yn tanio brwdfrydedd, ennyn diddordeb ac ysgogi dysgwyr.
Bydd y cwrs SCC yn darparu profiadau a fydd yn ategu eich pynciau eraill a’ch galluogi i fod yn fwy parod ar gyfer eich cyrchfan yn y dyfodol. Gyda chefnogaeth tiwtor profiadol y Dystysgrif Her Sgiliau, cewch eich tywys drwy bob un o’r Heriau.
Elfen allweddol arall o’r cwrs SCC yw’r Prosiect Unigol: sy’n rhoi cyfle i’r dysgwyr gyflawni gwaith ymchwil annibynnol i astudiaeth eu maes diddordeb neu yrfa uchelgeisiol. Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau ymchwil a chyfeirnodi; gan strwythuro 'traethawd estynedig' bychan a chyflwyno darn beirniadol o waith ysgrifennu academaidd. Yn bwysicaf, byddwch yn dysgu sgiliau y bydd angen i chi eu defnyddio yn y brifysgol ac mewn bywyd.
Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch, megis rhaglenni gradd.
Mae’r cwrs hefyd yn darparu set eang o sgiliau a all arwain at gyflogaeth lwyddiannus. Yn benodol, mae’r Prosiect yn amhrisiadwy ar gyfer helpu i strwythuro ceisiadau ar gyfer y brifysgol a gallu siarad yn hyderus mewn cyfweliadau. Mae’n dangos diddordeb, gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion cymhleth mewn maes astudio dewisol, ac mae’n rhoi awch cystadleuol i ddysgwyr, gan ddangos gwytnwch, ymrwymiad a diddordeb mewn pwnc o’ch dewis, ac mae wedi cynorthwyo nifer o’n dysgwyr i sicrhau cynnig gostyngol drwy UCAS.
Mae’r Dystysgrif Her Sgiliau’n cynnwys cyfanswm o 4 elfen:
Prosiect Unigol - 50%
Menter a Chyflogadwyedd – 20%
Dinasyddiaeth Fyd-eang
Her Gymunedol 15%
Cwblheir y 3 Her dan amodau rheoledig dros gyfnod penodol o amser, yn dilyn cyfnod o addysgu a dysgu. Gellir cwblhau’r Prosiect Unigol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth a gall aseswyr rhoi adborth.
Does dim Gofynion Mynediad ar gyfer y cwrs SCC, gan fod y cymhwyster yn mynd ochr yn ochr â’ch cymwysterau eraill. E.e. Safon Uwch.