Mae eich amser yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn darparu cyfleoedd dwyieithog i chi ddatblygu’r sgiliau cyflogadwyedd a menter sydd eu hangen arnoch ar gyfer bywyd bob dydd, dilyniant i fyd gwaith ac i gynnal cyflogaeth ar gyfer y dyfodol. Pa bynnag flwyddyn rydych chi ynddi a pha bynnag gwrs rydych chi'n ei astudio, os ydych chi'n fyfyriwr gyda ni, mae hyn yn bendant ar eich cyfer chi.
ARCHWILIO - Ewch ati i archwilio pwy ydych chi a darganfyddwch eich pwrpas. Byddwch yn chwilfrydig, yn feddwl agored ac yn rhagweithiol.
PARATOi - Paratowch ac arloeswch eich agweddau tuag at waith a hunangyflogaeth. Dewch yn hunan-gymhellol, ewch y tu hwnt i gyfyngiadau canfyddedig a chyflawnwch eich uchelgeisiau a chyrchnodau personol.
CYSYLLTU - Cysylltwch a byddwch yn agored i bosibiliadau newydd. Byddwch yn ymatebol i gyfleoedd trwy wneud cysylltiadau newydd a rhwydweithio.
Gyda chymaint o gyfleoedd ar gael, mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i'ch paratoi ar gyfer dyfodol llwyddiannus. Cymerwch yr amser i ddarllen ein rhaglen Byddwch yn Uchelgeisiol gyffrous.