Skip to main content

Cyflwyniad i Undeb y Myfyrwyr

"Mae Undeb y Myfyrwyr yn ffordd wych o eiriol dros bethau rydych chi'n credu ynddyn nhw, a bod yn llais y myfyrwyr. Os ydych yn unigolyn brwdfrydig, sydd am wneud gwahaniaeth, yna Undeb y Myfyrwyr yw’r
lle i chi."

Francesca Thomas, Llywydd Undeb y Myfyrwyr 2023

Cwrdd â'ch Cynry Chiolwyr

Llywydd Undeb y Myfyrwyr - Francesca Thomas

Mae dechrau coleg yn gam cyffrous i unrhyw un sy’n edrych ymlaen at yr heriau newydd a’r newidiadau sy’n dod yn ei sgil. Fodd bynnag, nid yw newid wastad yn hawdd. Nod Undeb y Myfyrwyr yw gwneud y cam rhwng yr ysgol a’r coleg yn un llyfn. Boed yn ddechrau clwb newydd, helpu gyda chodi arian neu ysbrydoli dysgwyr gydag ymgyrchoedd, mae Undeb y Myfyrwyr yno i unrhyw un ac i bawb.

Cefais y fraint o fod yn Llywydd y llynedd ac yn ystod fy nghyfnod yn y swydd, mae Undeb y Myfyrwyr wedi cyflwyno nifer o fentrau i wella profiad y dysgwyr, megis byrddau pŵl ychwanegol, y digwyddiad cyllidebu cyfranogol, y mannau mislif a’r toiledau niwtral o ran rhywedd, i enwi ond ychydig. Rwyf hefyd yn bwriadu cyflwyno cynllun mentor cymheiriaid cyn i fy nghyfnod yn y swydd ddod i ben. Mae iechyd meddwl wastad wedi bod yn bwysig i mi a hyd yn oed yn fwy felly ers y pandemig.

Nod y Cynllun Mentoriaid Cymheiriaid yw creu tîm lles dan arweiniad myfyrwyr. Y rhesymeg y tu ôl i hyn yw y gall myfyrwyr gynnig cyngor ar faterion a phroblemau y gallent fod wedi eu profi eu hunain.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn ffordd wych o eiriol dros bethau rydych chi'n credu ynddyn nhw, a bod yn llais y myfyrwyr.
Os ydych yn unigolyn brwdfrydig, sydd am wneud gwahaniaeth, yna Undeb y Myfyrwyr yw’r lle i chi.

Is-lywydd Campws Pibwrlwyd - Elsie Williams

Wrth weithio yn y rôl hon, rwy’n gobeithio gwneud newidiadau positif i’r coleg yn llwyddiannus yn seiliedig ar farn y myfyrwyr. Rwy’n gobeithio gallu gweithredu ar unrhyw syniadau neu faterion y daw i’m sylw ar y campws.

Yn ogystal, rwy’n gobeithio dod â ffynhonnell o sicrwydd i’r rôl a bod yn rhywun sy’n barod i helpu ac a fydd yn pwysleisio’r neges ei bod hi’n bwysig lleisio eich barn.

Is-lywydd Campws Aberystwyth - Loki Evans

Rwy’n gobeithio dod ag elfen o ddogfennaeth i’r rôl, rwyf hyd yma wedi dogfennu pob darn o ymchwil yr wyf yn ei gasglu a’i drefnu yn unol â hynny.

Rwy’n gobeithio bod yn llais Undeb y Myfyrwyr i gynrychiolwyr cwrs (gan fy mod i yn un) a gobeithio y gallwn gydlynu’n ddidrafferth yn y dyfodol.

Hoffwn ddod ag ymdeimlad cryf o ymgysylltiad, i helpu myfyrwyr campws Aberystwyth ymhellach i deimlo'n agos at Undeb y Myfyrwyr ac yn agored i fwy o drafodaethau os oes eu hangen gan y myfyrwyr.

Rwy’n gobeithio bod yn llais llawer mwy uniongyrchol i ddisgyblion y campws hwn, gan fynd i’r afael â phob angen mawr neu fach.

At ei gilydd, rwy’n gobeithio gwella’r profiadau i fyfyrwyr fy nghampws dynodedig, nid yn unig y rheiny sy’n mynychu ar hyn o bryd, ond myfyrwyr y dyfodol; rwyf eisoes yn gweithio ar y rôl hon gyda fy mhrosiect Ffitrwydd yn y Gampfa.

Swyddog y Gymraeg - Rhys Price

Hoffwn agor mwy o gyfleoedd i siarad Cymraeg o gwmpas campysau'r coleg. Yn ogystal, rwy’n dymuno darparu ffyrdd i bobl sy’n siarad Cymraeg allu cwblhau eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Fy nod yw helpu gydag unrhyw fater sy’n ymwneud â’r Gymraeg a chynnig cymorth i unrhyw un a all fod angen fy help.

Rwy’n gobeithio dysgu sgiliau newydd hefyd ac ehangu fy ngorwelion yn fy swydd yn Undeb y Myfyrwyr.

Swyddog Menywod - Jenna Loweth

Rwyf am ddod â safbwynt benywaidd cryf ond cyfartal a pherthnasol, gan sicrhau bod pawb yn teimlo'n ddiogel yn ystod eu hamser yn y coleg, boed hyn yn feddyliol ac yn gorfforol.

Mae llawer yn fy nisgrifio fel unigolyn penderfynol iawn, a fydd bob amser yn rhoi llais i’r hyn sy’n bwysig. Fel y swyddog menywod, mae'n ddyletswydd arnaf i wneud yn siŵr bod yr holl anghenion yn cael eu diwallu, a mynd yr ail filltir i helpu pawb ar gampysau'r coleg.

Yn yr hinsawdd sydd ohoni ar hyn o bryd yr ydym yn byw ynddi, mae’n bwysicach nag erioed i sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed a bod newidiadau'n cael eu gwneud. Rwy’n gwybod y brwydrau rydym yn mynd drwyddynt a sut, fel coleg, y gallwn ddod ynghyd i wneud y newidiadau angenrheidiol hyn. Byddaf yn dod â diogelwch, a chysur ond parch a newid hefyd.

Swyddog LGBTQ+ - Keira Meal

Gobeithiaf ddod â lefel newydd o gefnogaeth i’r gymuned LGBTQ+ er mwyn sicrhau’r cysur mwyaf yn ystod eu hamser yn y coleg. Gallai hyn gynnwys mynd i’r afael â thoiledau niwtral o ran rhywedd neu drefnu a sefydlu grŵp LGBTQ+ er mwyn ehangu’r argaeledd i’n cymuned.

Yn ogystal, rwy’n gobeithio rhoi llais i sectorau o’r gymuned a chynnig cymorth lle mae ei angen. Ni ddylai unrhyw un gael ei eithrio.

Yn fy rôl, rwy’n ymdrechu i roi llais i unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan anghyfiawnderau LGBTQ yn y coleg ac yn anochel yn ceisio datrysiadau ar eu cyfer. Dewch ag unrhyw bryderon ataf yn Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..

Swyddog Allgymorth - Ayden Reynolds

Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i fod yn Swyddog Allgymorth ein coleg eleni ac mae gennyf lawer o gyrchnodau rwy’n anelu at eu cyflawni.

Gall y pontio o’r ysgol uwchradd fod yn gyfnod anodd i lawer o fyfyrwyr, felly fe wnaf beth bynnag a allaf i wneud hyn mor ddidrafferth â phosibl.

Un arall o fy nghyrchnodau yw cynyddu ymgysylltiad myfyrwyr a hyrwyddo’r digwyddiadau a gynhelir gan Undeb y Myfyrwyr. Trwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, posteri a hysbysebion eraill gallwn barhau i dyfu Undeb y Myfyrwyr a darparu hyd yn oed mwy o glybiau a digwyddiadau i'n myfyrwyr eu mwynhau.

Hoffwn hefyd fod yn llais ar ran fy nghyfoedion a chynrychioli eu budd pennaf. Os oes gan unrhyw fyfyriwr unrhyw gwestiynau neu bryderon rwyf bob amser yn hapus i wrando a gwneud yr hyn a allaf i'w helpu. Rwy'n llawn cyffro i wneud popeth a allaf yn y rôl hon dros y flwyddyn sydd ar ddod ac yn gobeithio gwneud rhai newidiadau positif i'n coleg.

Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - Jack Sidford

Rwyf ar ben fy nigon i gael y cyfle i wasanaethu fel swyddog cydraddoldeb ac amrywiaeth Coleg Sir Gâr am y flwyddyn academaidd sydd ar ddod. Dylai blynyddoedd coleg fod yn rhai o flynyddoedd mwyaf pleserus a chofiadwy ein bywydau.

Oherwydd hyn, rwyf am hybu amrywiaeth a chynwysoldeb yn ein coleg fel bod pawb, waeth beth yw eu cyfeiriadedd rhywiol, hil, ethnigrwydd neu ryw, yn cael mynediad cyfartal i gyfleoedd wrth astudio. Rwyf am gydweithio’n agos gyda fy swyddogion eraill ar hyd y flwyddyn sydd ar ddod, sef y Swyddog LGBTQ+, y Swyddog Gofalwyr Ifanc, y Swyddog Menywod, a’r Swyddog Lles a’r Swyddog Allgymorth.

Er mwyn helpu myfyrwyr i leddfu straen a meithrin eu rhwydweithiau cymdeithasol, rydym am greu nifer o grwpiau cefnogi ar bob un o’r campysau yng
Ngholeg Sir Gâr.

Yn ychwanegol, byddaf yn ymdrechu i ddechrau ymgyrch i ddisodli unrhyw iaith hynafol neu iaith a allai fod yn niweidiol sy'n dal i fod yn gyffredin ledled rhwydwaith y campysau. Trwy wneud hyn, rwy’n gobeithio sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo’n ddiogel ac yn gysurus yn ystod eu hamser yma.

Swyddog Lles - Rhys Lloyd

Rwy’n gobeithio bod yn llais ar ran fy nghyd-fyfyrwyr ac i gyfleu unrhyw bryderon sydd ganddynt i’r bobl briodol. Rwy’n credu mewn cydraddoldeb a thegwch i bawb ac yn dymuno sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal. Rwy’n cydweithio’n dda ag eraill ac felly’n teimlo y byddaf yn gaffaeliad i dîm Undeb y Myfyrwyr.

Rwy’n unigolyn cyfeillgar a hawdd mynd ato. Nid wyf yn feirniadol a gellir ymddiried ynof gyda gwybodaeth gyfrinachol. Hoffwn gynnal arolwg ymysg fy nghyd-fyfyrwyr er mwyn canfod eu barn am faterion sy’n ymwneud â’u lles. Rwy’n credu’n gryf mewn cyfiawnder a democratiaeth gymdeithasol. Rwyf yn erbyn bwlio ac rwy’n arbennig o bryderus ynghylch y cynnydd mewn seiberfwlio yn y gymuned ac yn fyd-eang.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.